Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Mehefin 2025

Amser: 08.59 - 09.12
 


Private, Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Paul Davies AS

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth 

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y bydd y datganiad ar Atal Afiechyd yn cael ei gyhoeddi nawr fel datganiad ysgrifenedig a bydd Cwestiynau Llafar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddydd Mercher yn cael eu hateb gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y newid canlynol i fusnes dydd Mawrth:

 

 

 

Dydd Mercher

 

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i gais am bleidlais drwy ddirprwy am resymau salwch hirdymor gan Rhianon Passmore AS. Bydd y trefniant ar waith rhwng 10 Mehefin 2025 a 30 Medi 2025 a Jane Hutt AS fydd yn cynnal y bleidlais drwy ddirprwy. 

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 17 Mehefin 2025

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad Ap GIG Cymru (45 munud) Gohiriwyd

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2025 -

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Dadleuon Agored: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Datganodd Heledd Fychan AS fuddiant gan ei bod wedi cyflwyno un o'r cynigion i'w ystyried. Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 18 Mehefin 2025:  

 

Heledd Fychan: NNDM8914 Diwylliant a'r Celfyddydau - braf i'w cael neu'n allweddol i ddyfodol Cymru? 

 

</AI7>

<AI8>

4       Deddfwriaeth

</AI8>

<AI9>

4.1   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd i:

 

 

</AI9>

<AI10>

5       Unrhyw fater arall

Opsiynau ar gyfer craffu ar adroddiadau Ymchwiliad Covid y DU yn y dyfodol

 

Rhoddodd y Llywydd ddiweddariad i Reolwyr Busnes ar drafodaeth â Fforwm y Cadeiryddion ynglŷn ag ystyriaeth y Pwyllgor Busnes o opsiynau y gwaith craffu ar adroddiadau Ymchwiliad Covid y DU yn y dyfodol. Nododd hefyd ei bod wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i ofyn i'r Pwyllgor ystyried arwain ar graffu ar adroddiadau Modiwl 1 a 2  Ymchwiliad Covid y DU. Bydd ymateb y Pwyllgor yn cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Busnes i'w ystyried pan ddaw i law.

 

Cynigiodd y Llywydd efallai y byddai’r Pwyllgor Busnes am osod adroddiad byr yn cynnwys ei ffordd arfaethedig o symud ymlaen ar ôl cytuno ar hyn, a chynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar gynnig i nodi'r adroddiad hwnnw ac adroddiad Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ar ei ystyriaeth o Fodiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU.

 

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>